Clwb Ifor Bach | 11 Womanby Street | Cardiff | CF10 1BR (029) 2023 2199 | post@clwb.net

 

 

Diolch am y gwahoddiad i ymateb i’r Ymgynghoriad ynghylch y Diwydiant Cerddori- aeth yng Nghymru. Mae’r sylwadau isod wedi’i paratoi ar ran Bwrdd Rheoli Clwb Ifor Bach CIC, lleoliad cerddoriaeth byw yng Nghaerdydd sydd wedi bod yn wrei- thredol am dros 35 o flynyddoedd. Yn ogystal å threfnu digwyddiadau yn y Clwb a lleoliadau eraill yng Nghaerdydd rydym wedi hyrwyddo nifer o deithiau ar gyfer artistiaid led-led Cymru a bellach yn gyfrifol am Gŵyl Sŵn - gŵyl gerddoriaeth aml-leoliad sy’n digwydd yn flynyddol yn y brifddinas yng nghanol mis Hydref.

Mae’r Clwb yn cael ei adnabod fel un o prif ganlofannau cerddoriaeth byw Cymru ac yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gefnogi artistiaid newydd o Gymru a thu hwnt ar ddechrau eu gyrfa.

 

Rydym wedi cyd-weithio gyda’r Music Venues Trust i lunio ymateb i’r ymgynhoriad ac mi fydd nifer o’n sylwadau cyffredinol yn caei ei cynnwys yn ei adboirth nhw. Fodd bynnag isod rwyf am restri rhywfaint o sylwadau ychwanegol ynghylch mate- iron sydd wedi dod i’r amlwg i ni wrth weinyddu’r Clwb ynghyd ac awgrymiadau o ran sut medrid datrys rhai o’r problemau ynghlwm:

 

(i)     Mae’r polisiau trwyddedu presennol yn ei wneud yn anodd ac yn gostus i lwyfannu gigs rheolaidd. Y rheswm pennaf am hyn ydi’r canllawiau sydd mewn lle o ran y nifer o swyddogion diogelwch sydd angen ei cyflogi i gydymffurfio gyda’r drwydded. Gan bod lleoliadau tebyg i Clwb yn cael ei gweld yn yr un modd a chlybiau nos, yn hytrach na chanolfannau celfyddydol, mae’n ofynnol i ni gyflogu un swyddog dio- gelwch am bob cant o gwsmeriaid sy’n bresennol ar bob llawr o’r adeilad. Gall hyn olygu hyd at pedwar o swyddogion ar gyfer dig- wyddiad sy’n denu 250 o gwesmeriaid (3 swyddog yn yr ystafell ac un arall yn y fynedfa). Fodd bynnag pan rydym yn cynnal digwqyddiadau mewn llefydd sydd yn cael ei gweld fel canolfannau celfyddydol neu theatrau nid oes yr un amdoau mewn lle. Petai modd categoreiddio lleoliadau cerddoriaeth byw yn yr un modd a chanolfannau celfyd- dydol, ac o hynny newid yr amodau ynghylch swyddogion diogewlch,

mi fyse hyn yn gwneud y costau o gynnal gigs byw yn llawer mwy hy- fyw.

 

(ii)    Rhwystrediaeth arall gyda’r rheolau trwyddedu presennol ydi’r pa mor anodd ydi hi i gynnal gigs i gynulleidfa dan 18 oed. Yn hanesyddol mi o’n ni’n medru croesawi pobl 14 oed ac hyn i’n gigs yn Clwb ond erbyn hyn, yn bennaf oherwydd pwysau gan swyddogion trwyddedu, rydym wedi gorfod newid ein polisi i 16+ yn ystod yr wythnos a 18+ ar y penwythnos. Mae’r polisiau hyn yn ei wneud yn gynyddol anodd i gynulleidfa ifanc i ddod i leoliadau megis Clwb i wyliocerddoriaeth byw. Y rheswm sydd yn cael ei rhoid i ni am dynhau’r rheolau yn- ghylch caniatau pobl dan 18 i fynychu’r Clwb ydi’r ffaith ein bod yn gwerthu alcohol yn y gigs. Fodd bynnag petai ni’n cynnal y dig- wyddiad mewn canolfan celfyddyol neu theatr, sydd hefyd yn gwerthu alcohol, ni fyse’r un rheolau mewn lle.

 

(iii)  Pwynt trafod arall yw’r canllawiau sydd mewn lle i gyfrifo’r nifer o bobl a gyniateir yn yr adeilad, yn unol a’r rheolau tån. Mae natur digwyddiadau byw yn golygu bod cynulleidfoedd yn dewis bod yn agosach i’w gilydd yn yr ystafell na fyse nhw mewn amglychiadau gwahanol. Er hyn mae’n rhaid i ni gydymffurfio gyda rheolau nifer- oedd sydd wedi’i gosod ar gyfer ei gweithredu mewn sawl maes gwa- hanol. O ganlyniad mae nifer o’n digwyddiadau yn gallu edrych yn  wag er ein bod wedi gwerthu’r holl docynnau å gyniateir yn ôl y dr- wydded. Byse mwy o hyblygrwydd efo hyn yn hwyluso trefniadau ac yn galluogi ni i gynydduincwm.

 

(iV)  Mae’n werth nodi yma nad yw hyrwyddo gigs byw mewn lleoiadau tebyg i Clwb yn ariannol hyfyw. Rydym ond yn medru parhau i gynnig rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau byw yma am y rhesymau canlynol:

 

(a)  rydym yn gwmni nid er elw ac yn ail fuddosddi unrhyw elw i ge- fnogi amcanion craidd ycwmni.

 

(b)  rydym yn berchen ar yr adeilad ac o ganlyniad heb wynebu’r cyn- nydd    mewn rhent mae nifer o fusnesau tebyg wedi gorfod dygymod yn

ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

(c)  mae gennym rhaglen cryf a rheolaidd o nosweithiau clwb sy’n helpu i ddigolledi’r buddsoddiad rydym yn ei wneud mewn cynnal gigs.

 

Heb yr uchod ni fyse modd i ni gynnal gigs yn y clwb, na chwaith cyflogi tim o 6 o bobl i’w trefnu a’i hyrwyddo (yn ogystal a 4 staff llawn amser arall a nifer heleaeth o staff llaw-rydd a rhan amser). Rydym wedi llwyddo i wneud hyn am dros 35 mlynedd er yr hinsawdd ac amodau cynyddol anodd i’r sector, ac wedi’i wneud heb dderbyn unrhyw nawdd rheolaidd i’n cynorthwyo. Petai newid i flaenoraiaethau nawdd y Llywodraeth, ac o hyn y posibiliad i’r sector fedri derbyn cefno- gaeth ariannol i gefnogi’r rhaglen o ddigwyddiadau byw trwy’r wlad yna fedrai ond dychmygu’r hyn byse modd ei gyflawni o fewn y sin gerddoriaeth byw yng Nghymru.